Comisiwn y Senedd |
Lleoliad: |
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel |
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 12 Gorffennaf 2021 |
|
||||
Amser: |
12.30 - 14.55 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Elin Jones AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Janet Finch-Saunders AS Ken Skates AS Joyce Watson AS |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Arwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid Lowri Williams, Pennaeth Adnoddau Dynol a Chynhwysiant Gareth Watts, Pennaeth Llywodraethu a Sicrwydd Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
Robert (Bob) Evans, Cynghorwr Annibynnol Sarah Pinch, Cynghorwr Annibynnol
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.a Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd ymddiheuriadau.
Croesawyd Bob Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, a Sarah Pinch, Cadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Gydnabyddiaeth, Ymgysylltu a'r Gweithlu i'r cyfarfod.
1.b Datgan buddiannau
Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.
1.c Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Nodwyd cofnodion cyfarfod y Comisiwn ar 15 Mawrth.
2 Trefn Lywodraethu a Gweithdrefnau’r Comisiwn
Mae’r egwyddorion fframwaith cyffredinol ar gyfer llywodraethu'r Comisiwn, y rheolau ar gyfer cynnal cyfarfodydd y Comisiwn a dirprwyo swyddogaethau i'r Prif Weithredwr, wedi cael eu hadnewyddu yng ngoleuni profiad ac arfer gorau. Mae hyn yn arferol yn dilyn pob etholiad, a gwahoddir y Comisiwn i ddisodli'r dogfennau presennol.
Cytunodd y Comisiynwyr i ddisodli dogfennau fframwaith llywodraethu presennol gyda fersiynau wedi'u diweddaru:
· Egwyddorion llywodraethu a darpariaethau ategol
· Rheolau ar gyfer cynnal busnes y Comisiwn
· Dirprwyo swyddogaethau'r Comisiwn
· Trefniadau ar gyfer arfer swyddogaethau'r Clerc
Cytunodd y Comisiynwyr i adolygu lefel Dirprwyo swyddogaethau'r Comisiwn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Nodwyd hefyd y cynigion ar gyfer cyfathrebu ag Aelodau ynglŷn â gwaith y Comisiwn.
Hysbyswyd y Comisiynwyr hefyd bod nodyn yn nodi fframwaith rheoleiddio rôl a chylchoedd gwaith priodol y Bwrdd Taliadau, y Swyddog Cyfrifyddu, y Comisiwn, y Comisiynydd Safonau a'r Pwyllgor Safonau wedi'i baratoi ar gyfer Grwpiau ac y byddai'n cael ei ddosbarthu.
Bydd y fframwaith llywodraethu yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Senedd er tryloywder.
3 Portffolios y Comisiwn
Mae gan y Comisiwn gyfrifoldeb corfforaethol dros arfer y swyddogaethau a roddwyd iddo a chyfrifoldeb dros lywodraethu'r sefydliad. Mae gan y Comisiynwyr gyfrifoldeb ar y cyd dros benderfyniadau, ac mae ganddynt statws cyfartal mewn trafodaethau.
Gan y caiff y Comisiynwyr ddyrannu cyfrifoldeb dros oruchwylio ystod ddiffiniedig o waith sefydliadol i Gomisiynydd unigol, cytunodd y Comisiynwyr ar y portffolios a ganlyn:
Portffolio: |
Comisiynydd |
Cyfathrebu |
Llywydd |
Cyllideb a llywodraethiant (gan gynnwys aelodaeth y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg) |
Ken Skates |
Cydraddoldeb |
Joyce Watson |
Ieithoedd swyddogol |
Rhun ap Iorwerth |
Datblygu cynaliadwy |
Janet Finch-Saunders |
Caiff y wybodaeth am y portffolios ei chyhoeddi ar wefan y Senedd er tryloywder.
4 Adroddiad ARAC / Adroddiad Blynyddol REWAC ac Ailstrwythuro Uwch Swyddi
4.a Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC)
Mae Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn ei gwneud yn ofynnol i Gadeirydd y Pwyllgor fod yn bresennol mewn cyfarfod o'r Comisiwn bob blwyddyn i gyflwyno Adroddiad Blynyddol i'r Comisiwn a'r Swyddog Cyfrifyddu.
Cyflwynodd Bob Evans, Cadeirydd ARAC, Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor, a nodwyd gan y Comisiwn.
Canmolodd yr hyn a gyflawnwyd wrth ymateb i bandemig Covid-19 a chyfres daclus o gyfrifon, a rhybuddiodd i gefnogi parhâd gwaith sylweddol y Comisiwn ar seiberddiogelwch.
Trafododd y Comisiynwyr bwysigrwydd ystyriaethau seiberddiogelwch a'r rhesymeg dros y cyfyngiadau y mae'n rhaid eu cymhwyso i ddarpariaethau TGCh, gyda chydbwysedd rhwng cyfleustodau a diogelwch. Cytunwyd i gynnwys darpariaethau TGCh y Comisiwn ar flaenraglen waith y Comisiwn.
4.b Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cynghori ar Gydnabyddiaeth, Ymgysylltu a'r Gweithlu (REWAC) ac Ailstrwythuro Uwch Swyddi
Cyflwynodd Sarah Pinch, Cadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Gydnabyddiaeth, Ymgysylltu a'r Gweithlu Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor, a nodwyd gan y Comisiynwyr. Roedd y Pwyllgor wedi cymryd diddordeb arbennig mewn cyfleoedd i ysgogi cynrychiolaeth gymdeithasol-economaidd a lleiafrifoedd ethnig yn well o fewn y Comisiwn, ac wedi rhoi ffocws i ymatebion i Covid mewn perthynas â gweithlu'r Comisiwn ac ymgysylltu â'r cyhoedd.
Gwnaeth holl swyddogion y Comisiwn, ac eithrio'r Clerc, eu hunain yn absennol o'r drafodaeth ar ailstrwythuro uwch swyddi. Cytunodd y Comisiynwyr ar gynigion i wneud newidiadau i bortffolios Cyfarwyddwyr a nodwyd trefniadau ar gyfer uwch staff sy'n rhan o'r Bwrdd Gweithredol.
5 Cyfeiriad Strategol y Comisiwn
Ystyriodd y Comisiynwyr fyfyrdodau eu rhagflaenwyr ar yr hyn a ddysgwyd drwy’r darnau mwyaf arwyddocaol / agweddau allweddol o waith y Comisiwn yn y Bumed Senedd, a’r ffactorau sy'n sbarduno newid, a fyddai’n dylanwadu ar gyfeiriad y strategaeth ar gyfer y Chweched Senedd.
Trafododd y Comisiynwyr yr angen i allu arloesi, a'u cyfrifoldebau ehangach i Gymru. Nodwyd ganddynt fod buddsoddi mewn ymchwil ac arfer da yn y defnydd o ieithoedd swyddogol yn ystod y pandemig a gwneud cynnydd ar arferion caffael yn faterion i'w hystyried ynghyd â ffyrdd o weithio yn y dyfodol, a chytunwyd i drafod ymhellach yn yr hydref.
6 Strategaeth Cyllideb Ddrafft 2022-23
Darparwyd cefndir a chyd-destun i Gomisiynwyr i lywio eu syniadau ynghylch strategaeth y gyllideb ac ystyried dulliau gweithredu mewn perthynas â'r gyllideb ar gyfer 2022-23.
Ar ôl myfyrio ar rinweddau cymharol y dewisiadau amgen a'r wybodaeth a ddarparwyd, gofynnodd y Comisiwn i waith gael ei wneud ar Opsiwn C. Roedd hyn er mwyn cymryd i ystyriaeth yr angen i ystyried y capasiti sydd ei angen i gyflawni mewn ffyrdd sy'n addas i anghenion yr Aelodau, er enghraifft parhau i weithio’n hybrid. Byddai Cyllideb ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2022-23 yn cael ei chyflwyno i'r Comisiwn yn ei gyfarfod ym mis Medi cyn cael ei gosod yn unol â gofynion y Rheolau Sefydlog.
Trafododd y Comisiynwyr hefyd y prosiect ffenestri newydd, a fu’n destun adroddiad dichonoldeb a gynhaliwyd yn ystod 2020 i gael cyngor arbenigol i lywio penderfyniad i’r dyfodol ar oblygiadau'r gyllideb, yr amseru a'r gwaith sydd ei angen i roi ffenestri newydd yn Nhŷ Hywel yn raddol.
Trafododd y Comisiynwyr yr angen, yng nghyd-destun gofynion cyffredinol llety yn y dyfodol a chytunwyd y dylid parhau’r trafodaethau yn ôl amserlen a fyddai'n caniatáu i'r materion hyn gael eu hystyried yn gyfochrog.
7 Diweddariad COVID
Dychwelyd Gwasanaethau
Trafododd y Comisiynwyr Fatrics Blaenoriaeth drafft Dychwelyd Gwasanaethau, a chytunwyd arno. Byddai’r matrics yn cael ei ddefnyddio fel map llwybr i barhau i ailgyflwyno gwasanaethau, a thrwy hynny ddychwelyd gwasanaethau i rai rhithwir yn ôl yr angen pe bai canllawiau Llywodraeth Cymru ar faterion sy'n ymwneud â covid-19 yn newid/yn cynyddu.
Roeddent o'r farn mai’r tebygolrwydd yw y byddai’r angen am weithio’n hybrid yn parhau, gan gydnabod yr angen i alluogi Aelodau i gymryd rhan mewn busnes. Cytunodd y Comisiynwyr y byddai'r mesurau presennol yn parhau am weddill y tymor, ac y byddai Profion Llif Ochrol ar gael ar gyfer dechrau'r tymor newydd, fel rhagofal ychwanegol.
Opsiynau ar gyfer gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd ar ystâd y Senedd
Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth a ddarparwyd am y camau a gymerwyd i ailddechrau gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd ar ystâd y Senedd, gan ailgyflwyno mynediad rheoledig i'r cyhoedd i weld y Cyfarfod Llawn ac i Aelodau gynnal digwyddiadau gyda rhanddeiliaid.
8 Papurau i'w nodi
8.a Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)
Nododd y Comisiynwyr y crynodeb o benderfyniadau recriwtio a ddarparwyd fel mater o drefn i bob cyfarfod o'r Comisiwn yn ystod y Bumed Senedd.
8.b Cofnodion ARAC Ebrill 2021
Nododd y Comisiynwyr gofnodion cyfarfod y Pwyllgor.
9 Unrhyw faterion eraill
Rhwydwaith Gwresogi Ardal Caerdydd – Cafodd y Comisiynwyr gyflwyniad byr i'r gwaith sy'n cael ei wneud i alluogi dŵr poeth, a gynhyrchir o wres gwastraff o waith ynni-o-wastraff Viridor yn y dociau, wedi'i bibellu o amgylch rhan isaf Caerdydd, i'w ddefnyddio gan gwsmeriaid yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus i wresogi eu hadeiladau. Byddai dogfen Cwestiynau Cyffredin yn cael ei darparu i Gomisiynwyr yn dilyn y cyfarfod.
Adroddiad prisio terfynol Cynllun Pensiwn yr Aelodau gan Actiwari'r Cynllun - Hysbyswyd y Comisiynwyr bod y bwrdd pensiynau wedi cytuno ar y prisiad ac na nododd unrhyw gynnydd yng nghyfradd cyfraniadau pensiwn y Comisiwn i Aelodau. Byddai’r adroddiad yn cael ei ddosbarthu er gwybodaeth.
Yn y cyfnod ers y cyfarfod blaenorol, roedd y Comisiwn wedi cytuno ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn ac Adroddiadau Blynyddol yn ymwneud ag Amrywiaeth a Chynhwysiant, Ieithoedd Swyddogol a Chynaliadwyedd, ymgynghorwyd ar y trefniadau sy'n ymwneud â'r Prif Gynghorydd Cyfreithiol a chytunodd i gael gwared â’r ffensys dros dro o amgylch y Senedd.
Mae'r Comisiynwyr hefyd wedi cytuno ar benodiad i'r Bwrdd Taliadau ac ymgynghorwyd ar newidiadau arfaethedig i Gynllun Pensiwn yr Aelodau.